Papur 1
Papur tystiolaeth ysgrifenedig drafft i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Uwch Gynghrair Cymru.
Rwy’n falch iawn o allu rhoi tystiolaeth i’r ymchwiliad i Uwch Gynghrair Bêl-droed Cymru a gynhelir gany Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
Mae pêl-droed yn gêm hynod o boblogaidd yng Nghymru, ac mae’n cael ei gwylio a’i chwarae gan lawer iawn o bobl. Mae’n gêm sy’n rhoi cyfle i fwynhau a chael ymarfer corff iach, ac yn ogystal â hynny, mae’n gallu dod a bri i’r genedl ac i gymunedau, gan greu ymdeimlad o falchder ynddynt. Trwy fuddsoddi mewn chwaraeon, gallwn gael effaith arbennig o gadarnhaol ar bobl ifanc mewn sawl ffordd, er enghraifft hybu iechyd da, mynd i’r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a’u helpu i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau cymdeithasol a fydd o gymorth iddynt yn nes ymlaen mewn bywyd. Mae polisïau ein Rhaglen Lywodraethu’n dangos ein bod wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn cael y cyfle i wneud amrywiaeth o chwaraeon, a’n bod yn meithrin eu doniau er mwyn cynnal ein llwyddiant mewn chwaraeon, o’r lefel gymunedol i lefel pencampwriaeth.
Er mwyn annog pobl i gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon ar lefel gymunedol, mae Chwaraeon Cymru yn cefnogi Cyrff Llywodraethu Chwaraeon Cenedlaethol ledled Cymru trwy fuddsoddi dros £6m eleni. Mae hynny’n cynnwys dros £800k sydd wedi’i ddyrannu i Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru. Defnyddir yr arian hwn i hyfforddi hyfforddwyr, denu mwy o bobl i gymryd rhan a meithrin doniau ein chwaraewyr ifanc galluog.
Dyma fanylion y cyllid a roddwyd i hybu pêl-droed ar lefel gymunedol dros y pum mlynedd diwethaf:
Cyllid a roddwyd gan Chwaraeon Cymru i Bêl-droed: Cyllid y Trysorlys yn unig |
|||
|
|
|
|
|
|
Data |
|
Chwaraeon |
Cyngor Chwaraeon Cymru - Blwyddyn (Dyddiad y Dyfarniad) |
Nifer y Taliadau (i gyd) |
Swm y Taliadau (a dalwyd) |
PÊL-DROED |
2007/08 |
45 |
884281.48 |
|
2008/09 |
55 |
947040.82 |
|
2009/10 |
55 |
840492.74 |
|
2010/11 |
37 |
1086119.7 |
|
2011/12 |
4 |
965850 |
Cyfanswm |
|
196 |
4723784.74 |
Cyngor Chwaraeon Cymru - Blwyddyn (Dyddiad y Dyfarniad) |
Chwaraeon |
Cyllideb |
Nifer y Taliadau (i gyd) |
Swm y Taliadau (a dalwyd) |
2007/08 |
PÊL-DROED |
Cynllun Hyfforddi |
1 |
52200 |
|
|
Cymorth Datblygu’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol |
1 |
738000 |
|
|
Grantiau Rhanbarthol |
7 |
24031.98 |
|
|
Sportsmatch |
36 |
70049.5 |
|
Cyfanswm |
|
45 |
884,281.48 |
|
|
|
|
|
2008/09 |
PÊL-DROED |
Cynllun Hyfforddi |
1 |
35500 |
|
|
Cymorth Datblygu’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol |
1 |
746514 |
|
|
Grantiau Rhanbarthol |
29 |
60021.37 |
|
|
Sportsmatch |
24 |
105005.45 |
|
Cyfanswm |
|
55 |
947,040.82 |
|
|
|
|
|
2009/10 |
PÊL-DROED |
Cynllun Hyfforddi |
1 |
25000 |
|
|
Cymorth Datblygu’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol |
1 |
735998 |
|
|
Her Adfywio |
1 |
5000 |
|
|
Grantiau Rhanbarthol |
3 |
3048 |
|
|
Sportsmatch |
49 |
71446.74 |
|
Cyfanswm |
|
55 |
840,492.74 |
|
|
|
|
|
2010/11 |
PÊL-DROED |
Cynllun Hyfforddi |
1 |
80000 |
|
|
Cymorth Datblygu’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol |
1 |
935000 |
|
|
Her Adfywio |
1 |
5000 |
|
|
Grantiau Rhanbarthol |
2 |
34601 |
|
|
Sportsmatch |
32 |
31518.7 |
|
Cyfanswm |
|
37 |
1,086,119.70 |
2010/11 Cyfanswm |
|
|
|
|
2011/12 |
PÊL-DROED |
Cynllun Hyfforddi |
1 |
80000 |
|
|
Cymorth Datblygu’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol |
2 |
885000 |
|
|
Sportsmatch |
1 |
850 |
|
Cyfanswm |
|
4 |
965,850 |
|
|
|
|
|
Y Cyfanswm Terfynol |
|
|
196 |
£4.723,784.74 |
Mae’r buddsoddiad hwn mewn pêl-droed wedi helpu Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru i:
- Gyfrannu at y gwaith o ddenu llawer mwy o bobl i gymryd rhan, gyda thros 8,000 o chwaraewyr ychwanegol wedi’u cofrestru â Chymdeithas Bêl-droed Cymru dros y ddwy flynedd diwethaf. Mae dros 1,000 ohonynt yn dod o gymunedau Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig, ac mae 750 yn bobl ag anableddau. Bellach mae dros 100,000 o ddynion a bechgyn a thros 6,000 o fenywod a merched wedi cofrestru fel chwaraewyr gyda thimau, ac mae’r nifer yn tyfu bob blwyddyn.
- Helpu i recriwtio dros 6,800 o hyfforddwyr cymwysedig ychwanegol dros y pedair blynedd diwethaf.
- Galluogi Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru i roi rhaglen achredu clybiau ar waith. Mae’r rhaglen hon wedi gwella safonau clybiau pêl-droed iau, ac wedi annog hyfforddwyr i ennill y cymwysterau angenrheidiol.
- Rhoi grantiau rhanbarthol i gefnogi prosiectau pêl-droed lleol.
- Helpu i wella perfformiad y garfan genedlaethol dan 16 wrth iddi gystadlu am y Victory Shield.
Nid yw Llywodraeth Cymruyn rhoiunrhyw gymorth ariannol i’r Uwch Gynghrair na’r gêm broffesiynol yng Nghymru.
Cafodd y targedau gwreiddiol, a nodir yn strategaeth Dringo’n Uwch (2005) ar gyfer timau pêl-droed rhyngwladol dynion a menywod, eu hadolygu’n dilyn yr adolygiad o Chwaraeon i’r Elît a gynhaliwyd yn 2009. Er bod lefelau perfformiad y timau cenedlaethol o bwys mawr i’r genedl, cydnabuwyd yn Strategaeth Chwaraeon Elitaidd, Chwaraeon Cymru, a gyhoeddwyd yn 2010, y bydd llwyddiant rhyngwladol yn dibynnu ar raglenni Cymdeithas Bêl-droed Cymru a’r clybiau pêl-droed proffesiynol sy’n gweithredu heb unrhyw gymorth uniongyrchol gan Chwaraeon Cymru. Mae’r targedau newydd, a nodir yn Strategaeth Chwaraeon Elitaidd, Chwaraeon Cymru, yn cefnogi uchelgais Cymdeithas Bêl-droed Cymru i wella safle Cymru yn rhestr detholion y byd FIFA a rhestr detholion UEFA, ac i wella perfformiad Cymru yng nghystadlaethau Cwpan y Byd ac ym Mhencampwriaeth Ewrop ar lefelau uwch a lefelau grwpiau oedran.
Huw Lewis AC
Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Mai 2012
[Nodyn: Cystadleuaeth i dimau o dan 16 oed sy’n cynrychioli’r pedair gwlad yw’r Victory Shield.]
Ymchwiliad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Uwch Gynghrair Cymru
Cylch gorchwyl